2015 Rhif 1831 (Cy. 267) (C. 115)

TAI, CYMRU

DIOGELU DEFNYDDWYR, CYMRU

Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 21 Hydref 2015, Bennod 3 o Ran 3 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (“y Ddeddf”) at ddibenion sy’n weddill. 

Mae Pennod 3 o Ran 3 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i asiantau gosod i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd perthnasol yn eu mangreoedd ac ar eu gwefan (os oes ganddynt un). Mae Pennod 3 hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi’r ddyletswydd gan bob awdurdod pwysau a mesurau lleol yng Nghymru.

Daeth Pennod 3 o Ran 3 i rym pan roddwyd y Cydsyniad Brenhinol i’r Ddeddf ar 26 Mawrth 2015 at y dibenion o wneud rheoliadau.

Mae adran 87 (gorfodi dyletswydd asiantau gosod i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd) ac Atodlen 9 (dyletswydd asiantau gosod i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd: cosbau ariannol) o’r Ddeddf wedi eu cychwyn yn y Gorchymyn hwn. Mae Atodlen 9 yn darparu gweithdrefn ar gyfer cosbau ariannol a sut i apelio yn eu herbyn.

 


NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu

dwyn i rym yn llawn (oni nodir fel arall) gan

orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y

Gorchymyn hwn:

 

Darpariaeth

Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 89

1 Medi 2015

2015/1605 (Cy.203)

 

 

 

 

 

 

 

 

 


2015 Rhif 1831 (Cy. 267) (C. 115)

TAI, CYMRU

DIOGELU DEFNYDDWYR, CYMRU

Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2015

Gwnaed                                 21 Hydref 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 100(3)(b) o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2015.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 21 Hydref 2015

2. Mae Pennod 3 o Ran 3 o’r Ddeddf yn dod i rym ar 21 Hydref 2015 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.

3. Mae Atodlen 9 i’r Ddeddf yn dod i rym ar 21 Hydref 2015 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.

 

 

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

21 Hydref 2015



([1])           2015 (p. 15).